Sorry - please click here for programme.
Rhaglen 2007 - 08 Ffilmiau’n dechrau am 7.30yh (i fod!).
Dydd Mercher 10 Hydref 2007
Deg Canŵ
(2006 Awstralia 90 mun)
Cyf: Rolf de Heer/Peter Djigirr)
Math: Antur/Comedi/Drama/Hanes/Rhyfel
Iaith: Aboriginal/Saesneg
Drama werin-myth ag iddi lawer o haenau wedi ei gosod ymhlith llwythau Aborigines Awstralia yn Nhiriogaeth y Gogledd. Trosleisio coeglyd, chwareus, gan yr actor David Gulpilil, sy’n egluro bod y stori sydd ganddo i’w hadrodd yn gymhleth a soffistigedig gyda chymaint o oblygiadau ag sydd i ganghennau ar goeden. Mae heliwr ifanc gyda’i gydfrodorion allan yn stribedu rhisgl coeden gyda’r bwriad o lunio 10 canŵ Mae’n anfodlon gan ei fod yn dal yn sengl, mae’n ffansio gwraig un o’i frodyr. Er mwyn rhoi iddo ddoethineb ac amynedd, mae ei hynafgwr yn adrodd storïau sy’n rhyngweu o’i hynafiaid wrtho. Un o’r pethau sy’n braf ynghylch Ten Canoes yw nad yw’n gwneud y bobl Aborigine yn estron na dieithr, nac iddynt ran llai pwysig o stori ynghylch tramgwydd pobl groenwyn.
Dydd Merched 14 Tachwedd 2007
This is England
(2006 DU 101 mun)
Cyf: Shane Meadows
Math: Drama
Iaith: Saesneg
Ceir thema gyfarwydd i ffilm ddiweddaraf Shane Meadows, sef bachgen yn brwydro i wneud y dewis cywir ac yn cael ei ddylanwadu gan dad benthyg carismataidd ond peryglus. Mae’n ddisgrifiad hyderus a bywiog o 1983, ac yn wyliau haf tyngedfennol i brif actor rhagorol y ffilm, Thomas Turgoose. Os mai hwn yw mea culpa Meadows' am ymwneud â’r asgell dde yn y blynyddoedd cyn ei arddegau, mae’n gofalu peidio â nithio’r grawn oddi wrth yr us: mae’r pennau crwyn gwreiddiol mae Shaun yn ymuno â hwy ar y dechrau yn dangos gofal a chyfeillgarwch tuag ato. Ymosodant ar eiddo’n unig, o leiaf nes mae cyn-droseddwr, Combo, yn ymddangos, cynrychiolydd chwerw, hiliol cenhedlaeth flaenorol o bennau crwyn. Gan drin cymhlethdodau gwrywdod, trais a hil gyda sensitifrwydd ac ysgafnder cyffyrddiad, mae’r ffilm yn portreadu’r cyfnod, a’r hyn oedd yn ddeniadol o ran bod yn aelod o gang.
Rhagfyr 12
Into Great Silence
(2005 Ffrainc/Swistir/Yr Almaen 169 mun)
Cyf: Philip Groening
Math: dogfen
Iaith: Saesneg/Ffrangeg/Lladin
Arhosodd yr Almaenwr Philip Groening, sy’n gwneud rhaglenni dogfen, yn amyneddgar am 13 mlynedd cyn i fynachlog Carthwsaidd Grande Chartreuse yn yr Alpau yn Ffrainc ger Grenoble estyn gwahoddiad iddo wneud ffilm am eu bywydau ar yr amod na ddylai bod unrhyw oleuadau artiffisial, dim cerddoriaeth (heblaw eu salm-donau Gregoraidd), dim cyfweliadau, dim sylwebaeth a dim criw gydag ef. Ceir myfyrdod ar fywydau wedi eu cysegru i dlodi, gweddi a byw mewn unigrwydd. Bu Groening yn byw mewn cell am bedwar mis, trwy bob tymor, gan gyfathrebu â’r mynaich trwy lythyrau a chofnodi eu bywydau.
Gwelwn y mynaich yn gweddio yn eu celloedd, yn ymgasglu yn y capel, yn gweithio yn ystafell waith y teiliwr, y golchdy, y fferm, y gerddi, y gegin, gweithdy crydd a man sydd wedi ei droi’n salon barbwr. Gwelwn hefyd ddau newydd ddyfodiad, y naill yn groenddu, a’r llall yn Asiad, yn cael eu croesawu i‘r Urdd gan y prior cyffredinol. Gwelwn hefyd y mynaich yn siarad wrth fynd ar eu taith gerdded a sgwrsio wythnosol yn y wlad a sylwi ar eu llawenydd fel a ddangosir gan blant mewn llithro i lawr bryn wedi ei orchuddio ag eira gan ddefnyddio’u hesgidiau fel slediau a thaflu peli eira. Yr unig un sy’n siarad i’r camera yw mynach oedrannus, dall sy’n disgrifio colli ei olwg fel rhodd gan Dduw.
Dydd Mercher 9 Ionawr 2008
Water
(2007 114 mun)
Cyf Deep Mehta
Math: Drama
Iaith: Hindi
Gan y gwneuthurwr ffilmiau dewr a phrofoclyd Deep Mehta, daw’r ffilm a gafodd ei henwebu am Oscar sef Water, stori wefreiddiol a phryferth iawn am ‘dai gweddwon’ India, ble’r aiff merched o bob oedran i fyw (hyd yn oed heddiw), wedi eu hynysu oddi wrth gymdeithas yn dilyn marwolaethau eu g^w^yr. Gyda hiwmor, yn gyforiog o emosiynau i’w cael trwy’r byd yn grwn, ac yn fyw gyda chyffro gweledol, mae stori Water yn olrhain hanes tair gwraig weddw a oedd yn ddigon dewr i sefyll dros eu hawliau yn ystod cyfnod rhyddhaol Mahatma Gandhi.
Dydd Mercher 13 Chwefror 2008
Mountain Patrol (Kekexili)
(2006 Tsieina/Hong Kong 90 mun)
Cyf: Chuan Lu
Math: Action/Drama
Iaith: Mandarin Chinese/Tibetan
Mae un dyn yn fodlon peryglu popeth er mwyn achub diniweidrwydd
Yn seiliedig ar ddigwyddiadau gwir. Ceir prydferthwch llym a drama hyd yn oed yn llymach yn y ffllm hon o Tseina dan gyfarwyddyd Lu Chuan, ynghylch "patrol yn y mynyddoedd" a ganiatawyd gan lywodraeth Beijing yn y 90au i ddileu hela antelop yn anghyfreithlon ar wastadedd enfawr yn Tibet, sef Kekexili, lle na cheir unrhyw bobl yno nes bydd pob ôl troed, fel dywed rhywun, "y cyntaf ers dechreuad y byd”. Pan mae newyddiadurwr o Beijing sef Ga Yu yn cyrraedd Kekexili, mae’n dyst i angladd Tibetaidd a phentref sy’n galaru. Mae Ga Yu yn benderfynol o ddatgelu’r gwir stori tu ôl i ddiflaniad rhyfedd gwirfoddolwyr ar batrol, lladd antelopau prin Tibetaidd, a’r sôn bod y patrol yn y mynyddoedd yn cydweithredu â’r helwyr. Mae lluniau aruthrol yn dangos tirweddau symudliw, afonydd rhew peryglus a muriau gwyn o fynydd.
Cymdeithas ffilmiau sy'n cael ei chynnal gan wirfoddolwyr yw'r Sinema Achlysurol. Bydd unrhyw elw a wneir yn dychwelyd i'r gymdeithas ar gyfer dangos ffilmiau i'r aelodau.
Rhaid i chi ymaelodi cyn gwylio ffilm fydd yn cael ei dangos. Bydd yn bosibl ymaelodi wrth y drws ar y nosweithiau pan ddangosir ffilmiau am un tâl o £5. Tâl mynediad i weld ffilm fydd £3.00. Bydd croeso i aelodau chwarae rhan weithredol yn y gwaith o redeg y gymdeithas, ac fe'u hanogir i fod yn bresennol yn ein cyfarfod cyffredinol blynyddol. Ni fydd plant fel y cyfryw, yn gallu dod yn aelodau, ond gallant ddod i wylio ffilmiau addas gydag oedolyn.
Bydd bwyd ar gael ar y rhan fwyaf o nosweithiau pan ddangosir ffilmiau yn Connections Bistro, Y Mynydd Gwefru, o 6.30pm ymlaen. Bydd pryd llysieuol dau gwrs yn costio rhwng £5 a £6.50. Bydd croeso i chi ddod â'ch gwin eich hun, a chodir tâl gweini o £1.00. Os bydd eich grwp yn cynnwys mwy na 4, yna efallai bydd angen i chi drefnu cael bwrdd ymlaen llaw drwy ffonio 01286 873024.
Bydd ein hamrywiaeth deniadol o grysau Ti 'achlysurol' ar gael ar y nosweithiau y dangosir ffilmiau.
www.occasionalcinema.org